Datganiad hygyrchedd ar gyfer MapDataCymru BETA
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan MapDataCymru BETA a’i chynnwys.
Defnyddio’r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- nid yw rhai tudalennau ac adnoddau wedi’u hysgrifennu’n glir
- nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau
- nid oes gan rai dolenni destun i ddisgrifio diben y ddolen
- mae gan rai delweddau gyferbynnedd gwael
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych yn cael unrhyw broblemau nad ydynt yn cael eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni.
Er mwyn ein helpu i ddarparu gwybodaeth sy’n diwallu’ch anghenion yn well, dywedwch wrthym ym mha fformat yr hoffech gael y ddogfen. Os ydych yn defnyddio technolegau cynorthwyol, dywedwch wrthym pa rai.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn eich ateb o fewn 15 diwrnod gwaith.
Gweithdrefn gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd rydym wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA yng Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2, o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Mae’r materion canlynol wedi’u datrys lle y bo’n bosibl, ond efallai y byddant yn dal i effeithio ar nifer cyfyngedig o dudalennau.
Methu â chyflawni maen prawf llwyddiant: WCAG 2.4.4 A (Diben Dolen (Mewn Cyd-destun)).
Mater dan sylw: Nid yw testun ar ddolen sydd wedi’i gyfuno â chyd-destun y gall rhaglen ei bennu o ddolen yn nodi diben y ddolen.
Methu â chyflawni maen prawf llwyddiant: WCAG 2.4.3 (Lefel A) Trefn Ffocws.
Mater dan sylw: Mae ffocws bysellfwrdd yn cael ei gyfeirio at y map cyn y prif gynnwys a gwybodaeth ddisgrifiadol, gan arwain at drefn ffocws nad yw’n dilyn dilyniant rhesymegol na ystyrlon. Gall hyn achosi i ddefnyddwyr ddod ar draws elfen ryngweithiol gymhleth cyn deall cyd-destun neu bwrpas y dudalen.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw mapiau ar-lein a gwasanaethau mapio, rhai statig a rhai rhyngweithiol, yn hygyrch. Mae’r elfennau hyn mewn categori sy’n cael ei esemptio rhag cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae'r wefan hon yn fersiwn BETA o wasanaeth MapDataCymru wedi'i uwchraddio. Rydym yn rhyddhau nodweddion a diweddariadau newydd yn rheolaidd ac yn profi pob datganiad ar gyfer hygyrchedd. Rydym yn adolygu canlyniadau'r profion hyn yn rheolaidd ac yn anelu at ddatrys unrhyw broblemau hygyrchedd a nodwyd fel rhan o'r cylch rhyddhau nesaf. Wrth i'r BETA barhau, byddwn yn parhau i wella hygyrchedd y gwasanaeth yn seiliedig ar brofi, diweddariadau safonau, ac adborth defnyddwyr.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 20 Mai 2026.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Mai 2026.
Gwnaethom ddefnyddio Lighthouse ac Axe-core i sganio tudalennau o'r wefan. Gwnaethom gynnal profion awtomataidd ac â llaw. Roedd y tudalennau a sganiwyd yn cynnwys cyfuniad o dempledi craidd, templedi cyffredin a thudalennau cynnwys.
Gwnaethon ni brofi:
Ein prif wefan yn Hafan | MapDataCymru
Detholiad o dudalennau catalog, gan gynnwys
- 3 tudalen catalog adnoddau map
- 3 tudalen catalog adnoddau set data
- 3 tudalen catalog dogfennau